Lleoliad:
Fideo gynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Chwefror 2021
Amser:
13.30 -
16.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11152
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS Huw Irranca-Davies AS (yn lle Joyce Watson AS) |
Tystion: |
Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru Tim Render, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Katy Orford (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS. Dirprwyodd Huw Irranca-Davies AS ar ei rhan.
2 Sesiwn graffu gyffredinol gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
2.1 Bu’r Aelodau yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
3 Parhau â'r sesiwn graffu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
3.1 Parhaodd yr Aelodau i holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
4 Papurau i'w nodi
4.1Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar lifogydd yng Nghymru
4.2 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021
4.3 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn cysylltiad ag effaith yr anghydfod parhaus rhwng Centrica (Nwy Prydain) ac undeb y GMB ynghylch darpariaeth NYTH
4.4 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch Fframweithiau Cyffredin
4.5 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth yn dilyn ymddangosiad y Comisiwn yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 21 Ionawr
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1Derbyniwyd y cynnig.
6 Sesiwn graffu gyffredinol gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu. Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd.
7 Y diweddaraf am Fframweithiau Cyffredin
7.1Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf ac ystyriodd ei waith mewn perthynas â Fframweithiau Cyffredin y DU.